Join us for the opening of Rosemary Sharman: An Exhibition of Paintings at Cog Dolgarrog, celebrating a vibrant collection of original artwork inspired by stories, observation and imagination.
Ymunwch â ni i agoriad Rosemary Sharman: Arddangosfa o Baentiadau yng Nghog Dolgarrog, sy'n dathlu casgliad bywiog o weithiau celf gwreiddiol wedi'u hysbrydoli gan straeon, arsylwi a dychymyg.
_______
RECENT WORKS BY ROSEMARY SHARMAN
Working across painting, drawing, illustration and textiles, Rosemary Sharman is driven by ideas, stories and observation. Each piece begins with a narrative—sometimes inspired by personal reflections and sometimes by the world around her. Her work often evolves through extensive sketchbook exploration before becoming a finished piece. She embraces the freedom of working across different media and styles, resulting in an eclectic and experimental body of work. This exhibition is a celebration of her greatest main love: painting.
After beginning her career as a graphic designer for a well-known high street bank, Rosemary became a freelance artist and illustrator, working with leading publishers, including Hallmark, to create books, greetings cards and giftware. Following six years living aboard a narrowboat and exploring Britain's canals and rivers, she returned to her home in Wales in 2022.
Now painting primarily for herself, she enjoys exploring a wide range of subjects, styles and techniques, believing that creativity should never be confined to a single medium or theme.
The works in this exhibition offer a glimpse into that ongoing creative journey—a journey shaped by curiosity, imagination and a love of storytelling.
GWEITHIAU DIWEDDAR GAN ROSEMARY SHARMAN
Gan weithio ar draws paentio, darlunio, lluniadu a thecstilau, mae syniadau, straeon ac arsylwi wrth wraidd gwaith Rosemary Sharman. Mae pob darn yn dechrau gyda naratif—weithiau wedi'i ysbrydoli gan fyfyrdodau personol, ac weithiau gan y byd o'i chwmpas. Yn aml, mae ei gwaith yn datblygu drwy archwilio helaeth mewn llyfrau braslunio cyn aeddfedu'n ddarn gorffenedig. Mae'n mwynhau'r rhyddid o weithio ar draws gwahanol gyfrwng ac arddulliau, gan greu corff o waith eclectig ac arbrofol. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o'i hangerdd mwyaf: paentio.
Ar ôl dechrau ei gyrfa fel dylunydd graffig i fanc adnabyddus ar y stryd fawr, aeth Rosemary ymlaen i weithio fel artist a darlunydd llawrydd. Bu'n cydweithio â nifer o gyhoeddwyr blaenllaw, gan gynnwys Hallmark, i greu llyfrau, cardiau cyfarch ac anrhegion. Wedi treulio chwe blynedd yn byw ar gwch cul ac yn teithio ar hyd camlesi ac afonydd Prydain, dychwelodd i'w chartref yng Nghymru yn 2022.
Erbyn hyn, mae'n paentio'n bennaf er ei mwyn ei hun, gan fwynhau archwilio amrywiaeth eang o bynciau, arddulliau a thechnegau. Mae'n credu na ddylai creadigrwydd fyth gael ei gyfyngu i un cyfrwng nac un thema.
Mae'r gweithiau yn yr arddangosfa hon yn cynnig cipolwg ar y daith greadigol barhaus honno—taith sydd wedi'i llywio gan chwilfrydedd, dychymyg a chariad at adrodd straeon.